Cyfeillion Ysgol Bro Teifi
Swyddogion 2018-2019
Cadeirydd: Cat Dafydd
Is-gadeirydd: Lynsey Thomas
Ysgrifennydd Cofnodion: Bethan Evans
Ysgrifennydd Marchnata: Llinos Dafydd
Trysorydd: Catrin Lewis
Diben:
Amcan y Cyfeillion yw hyrwyddo addysg disgyblion yn yr ysgol trwy gyfrwng y canlynol:
– Datblygu perthynas effeithiol rhwng y staff, y rhieni ac eraill sy’n gysylltiedig â’r ysgol;
– Trefnu gweithgareddau codi arian er mwyn darparu cyfleusterau neu offer sy’n cefnogi’r ysgol a hyrwyddo addysg y disgyblion
Ymhlith y digwyddiadau a drefnom y llynedd ac y byddwn yn eu trefnu eleni y mae Disgo i’r plant Cynradd, Noson Fingo ac rydym wrthi’n paratoi ar gyfer Cinio ac Arwerthiant codi arian yng Nghlwb Rygbi Castellnewydd Emlyn ar Fawrth yr 8fed 2019. Rydym yn gwerthu raffls mewn amryw o ddigwyddiadau Nadolig hefyd bob blwyddyn, ynghyd â’r stondin gacennau arferol yn y mabolgampau.
Rydym yn mynd ati yn frwdfrydig i godi arian i’r Ysgol, er lles ein plant, ac i gefnogi’r staff wrth geisio cyfoethogi profiadau’r disgyblion. Hyd yma, criw bach ydym – byddai’n wych o beth cael rhagor ynghyd er mwyn meddwl am syniadau newydd, ffres a chodi cymaint o arian ag y bo modd i holl ddisgyblion Ysgol Bro Teifi.
Rydyn ni ar Facebook hefyd, ewch i’n tudalen i gael y newyddion diweddaraf am ein digwyddiadau